HSC(4)-30-12 papur 6
At: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gan: Gwasanaeth y Pwyllgorau
Dyddiad y cyfarfod: 15 Tachwedd
1. Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi’i atodi fel Atodiad A.
2. Yn Atodiad A, ceir copi o amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hyd at doriad y Nadolig 2012.
3. Fe’i cyhoeddwyd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd a hoffai wybod am flaenraglen waith y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi dogfen o’r fath yn gyson.
4. Gall yr amserlen newid a gellir ei diwygio yn ôl disgresiwn y Pwyllgor pan fydd busnes perthnasol yn codi.
5. Gwahoddir y Pwyllgor i nodi’r rhaglen waith yn Atodiad A.
ATODIAD A
DYDD IAU 15 TACHWEDD 2012
Bore a phrynhawn
Ymchwiliad i’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes
Sesiynau tystiolaeth lafar
Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn
Ystyried yr adroddiad drafft (preifat)
DYDD MERCHER 21 TACHWEDD 2012
Bore yn unig
Ymchwiliad i’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes
Sesiynau tystiolaeth lafar
Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn
Ystyried yr adroddiad drafft (preifat)
DYDD IAU 29 TACHWEDD 2012
Bore a phrynhawn
Ymchwiliad i’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes
Sesiynau tystiolaeth lafar
Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)*
Cyfnod 1 – Y dull o graffu
Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn
Ystyried yr adroddiad drafft (preifat)
DYDD MERCHER 5 RHAGFYR 2012
Bore yn unig
Sesiwn graffu gyffredinol
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)*
Cyfnod 1 – Yr Aelod sy’n gyfrifol i agor
Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)*
Cyfnod 1 – Y dull o graffu
Dydd Llun 10 Rhagfyr – Dydd Sul 6 Ionawr 2012: Toriad y Nadolig
*Noder fod yr eitemau hyn yn dibynnu ar ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno gan yr Aelodau priodol sy’n gyfrifol ac yn cael ei hail-gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel rhan o’r gwaith o graffu yng Nghyfnod 1.